Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 6
Rhagfyr 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi
Gareth Davies (Dyffryn Clwyd): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith cau Pontins ym Mhrestatyn ar yr economi leol a thwristiaeth yn Sir Ddinbych?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser y pancreas
(60 munud)
NDM8385 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas;
b) bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop a'r byd;
c) bod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch;
d) ar ôl canfod y canser, mae pobl yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb help i reoli symptomau; ac
e) ar ôl cael diagnosis, dim ond 3 o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser, a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis.
2. Yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys.
3. Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei weithredu.
4. Yn canmol yr holl elusennau a sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion diflino i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion.
Cyd-gyflwynwyr
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cefnogwyr
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd
(60 munud)
NDM8437 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod rôl cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg wrth gefnogi economi Cymru.
2. Yn gresynu na fu strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ers 2008.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd sy'n cynnwys:
a) canolfannau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;
b) rhwydwaith helaeth o bwyntiau gwefru ac ail-lenwi ar gyfer coetsys a cherbydau nwyddau trwm trydan neu hydrogen; ac
c) newidiadau i'r system gynllunio yng Nghymru i sicrhau y gellir darparu seilwaith cludo llwythi ar y ffyrdd mor effeithlon â phosibl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at effaith niweidiol Brexit ar y sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg yng Nghymru, gyda chyfeintiau llwythi Cymru 27 y cant yn is na lefelau 2019 o hyd.
Yn credu y byddai ailymuno â Marchnad Sengl Ewrop yn rhoi hwb hanfodol i fasnach llwythi ym mhorthladdoedd Cymru megis Caergybi, a'r sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg ar draws Cymru.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod Llwybr Newydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer cludo llwythi a logisteg ac yn cefnogi datblygiad cynllun ar gyfer cludo llwythi a logisteg.
Yn cefnogi’r gwaith hwn, a fydd yn golygu ffordd aml-ddull o gydweithio gyda diwydiant i hyrwyddo:
a) gwelliannau i’r cyfleusterau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;
b) camau i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm a choetsys trydan a hydrogen, gan adlewyrchu ansicrwydd o fewn y diwydiant ynghylch y datblygiadau hyn; ac
c) gwaith i fabwysiadu dull cenedlaethol a strategol o wella’r seilwaith ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ledled Cymru.
Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 | LLYW.CYMRU
7 Dadl Plaid Cymru - Tlodi tanwydd
(60 munud)
NDM8435 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod yr argyfwng costau byw presennol yn dangos pa mor fregus yw cymunedau yng Nghymru i gost ynni.
2. Yn gresynu bod amcangyfrif o hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm isel yng Nghymru mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar fyrder i gefnogi aelwydydd incwm isel i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni y gaeaf hwn; a
b) gosod targedau interim yn ei Chynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 i fesur cynnydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i gefnogi'r rhai mewn angen gyda'u biliau ynni y gaeaf hwn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
gweithredu'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys i gefnogi aelwydydd incwm isel, pobl hŷn a phobl sy'n byw gyda salwch angheuol i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni y gaeaf hwn.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cyflwyno cerrig milltir interim i'r Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd cyn gaeaf 2023 er gwaethaf sicrwydd y byddai'n gwneud hynny.
Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r gwaith parhaus gan Ofgem a Llywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu heriau costau byw ac i ddiogelu defnyddwyr.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8424 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus: pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2023